0845 652 2508
uchange4better.co.uk

Cwestiynau Cyffredin

 

Ydy'n costio unrhyw beth i newid cyflenwr?

Na, does dim rhaid talu dim i newid eich cyflenwr nwy neu drydan.

 

Ydy'n hawdd newid cyflenwr?

Ydy, mae'n cymryd llai na phum munud i gofrestru ar gyfer contract ynni newydd a chyda UCAC yn rheoli'r broses ar eich rhan, gallwch fod yn sicr y bydd popeth yn digwydd yn sydyn ac yn unol â'ch cyfarwyddiadau chi.

 

Pam ddylwn i ddefnyddio UCAC?

UCAC yw'r gwasanaeth cymharu prisiau nwy a thrydan domestig arbenigol mwyaf yn y DU. Rydym wedi'n hachredu'n llawn gan golwg ar ynni ac oherwydd ein bod yn gwbl ddiduedd rydym yn rhestru pob contract nwy a thrydan unigol sydd ar gael i chi. A'r peth gorau yw fod ein gwasanaethau'n cael eu darparu i chi yn rhad ac am ddim.

 

Fydda' i wedi fy nghlymu i gontract tymor hir?

Na, ac eithrio rhai o'r cyfraddau sy'n cael eu rhewi sydd ar gael, cewch newid eich cyflenwr nwy a thrydan mor aml ag y dymunwch.

 

Faint mae'n ei gymryd i newid cyflenwr?

Mae gan eich cyflenwr presennol hawl bob amser i gael rhybudd o 28 diwrnod, ac felly mae'r trosglwyddo'n cymryd rhwng 4 a 6 wythnos fel arfer.

 

Faint mae'n ei gymryd i gwblhau'r cais?

Ni ddylai gymryd mwy na ryw 5 munud

 

Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Na, bydd UCAC yn gofalu am bopeth i chi, o roi rhybudd i'ch cyflenwr presennol, i sicrhau bod y contract newydd yn cael ei sefydlu'n gyflym ac yn unol â'ch gofynion chi.

 

Pa wybodaeth fydd ei hangen arnaf i gwblhau'r cais?

Os ydych wedi dewis talu trwy ddebyd uniongyrchol, dylech gael eich manylion bancio wrth law. Yn ddelfrydol dylech gael eich biliau cyfredol o'ch blaen hefyd er mwyn i ni gael eich MPRN nwy a/neu eich MPAN trydan o'r rhain. Rhoddir disgrifiad llawn o'r rhifau hyn ar dudalen briodol y broses gofrestru.

 

A fydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio ar gyfer dibenion marchnata?

Na, mae gan UCAC bolisi preifatrwydd llym ac mae'n gwarantu na fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu byth i drydydd parti ac na chaiff ei defnyddio at ddibenion marchnata.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr newydd yn peidio â bod yn gystadleuol neu os ydw i wedi dewis cyflenwr gwyrdd a bod eu sgôr ynni gwyrdd yn newid?

Fel cleient, gallwch ddewis ymuno â'n rhaglen monitro ynni am oes ddi-dâl lle bydd ein cronfeydd data'n monitro manylion eich contract(au) ynni newydd yr ydych wedi'i ddewis yn erbyn y farchnad gyfan. Os bydd eich contract newydd yn mynd yn groes i'r paramedrau yr ydych wedi'u gosod, byddwn yn ysgrifennu atoch yn awtomatig i roi gwybod i chi am yr opsiynau newydd sydd ar gael i chi yn y farchnad. Yn y bôn gallwch ddewis ac anghofio - bydd UCAC yn gofalu am bopeth i chi.