Telerau
Darperir y gwasanaethau hyn gan ein partner, Energylinx.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn gwbl ddi-dâl. Bydd Energylinx yn derbyn taliad comisiwn bychan gan y darparwr ynni os byddwch chi'n penderfynu cael contract â'r darparwr hwnnw.
Mae'r defnydd o'r gwasanaethau hyn yn amodol ar y telerau a'r amodau yn y datganiad hwn.
Bydd Energylinx yn gweithredu fel asiant rhyngoch chi a'r darparwr ynni. Bydd unrhyw gontract rhyngoch chi a'r darparwr ynni, nid ag Energylinx. Bydd unrhyw gontract terfynol yn amodol ar delerau ac amodau'r darparwr ynni.
Mae'r prisiau ar wefan Energylinx yn cael eu diweddaru'n gyson a gallant gael eu newid o bryd i'w gilydd yn ôl disgresiwn y darparwyr ynni. Mae'r prisiau a ddyfynnir yn cynnwys TAW ac yn seiliedig ar y prisiau cyfredol sydd ar gael heddiw, nid ydynt yn cynnwys tariffau/prisiau hanesyddol.
Nid oes gan Energylinx ddylanwad ar ddarparwyr ynni o ran derbyn unrhyw gontract ac, o'r herwydd, ni ellir eu dal yn atebol petai cynnig yn cael ei dynnu'n ôl neu ddim yn cael ei gynnig i chi.
Dylech gymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarparwch i Energylinx yn wir, yn gywir ac yn ddi-firws.
Ni fydd unrhyw gyngor a roddir gan Energylinx yn creu unrhyw warant na roddir yn benodol yn y telerau ac amodau hyn.
Ni fydd Energylinx yn atebol am y gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr ynni ac nid yw'n rhoi unrhyw warant am y gwasanaethau a brynir gan y darparwyr ynni a ddewisir o ganlyniad i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Mae Energylinx yn defnyddio gweinydd diogel i gasglu gwybodaeth bersonol - mae eich preifatrwydd chi o'r pwysigrwydd mwyaf i Energylinx ac rydym yn gwarantu na fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu gan drydydd partïon, ac eithrio'r wybodaeth y bydd y darparwyr ynni ei hangen er mwyn i chi allu cael contract â nhw.
Diogelir cynnwys y wefan hon gan hawlfraint, ni cheir atgynhyrchu, addasu na storio unrhyw ran o'r wefan heb ein caniatâd penodol ni.
Bydd unrhyw ddarpariaeth yn y cytundeb hwn sy'n waharddedig neu'n anorfodadwy mewn unrhyw awdurdodaeth, yng nghyswllt y cyfryw awdurdodaeth, yn aneffeithiol i'r graddau y mae'n waharddedig neu'n anorfodadwy, heb annilysu gweddill darpariaethau'r cytundeb hwn neu heb effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw awdurdodaeth arall.
Dehonglir y telerau a'r amodau hyn yn unol â chyfreithiau'r Alban a bydd unrhyw anghydfod a gyfyd mewn unrhyw ffordd yn cael ei ddatrys gan Lysoedd yr Alban ac unrhyw Lys ag awdurdodaeth i wrando ar apeliadau oddi wrthynt.
