Prisiau
Mae'r prisiau a nodir gan UCAC yn union yr un fath â'r rhai a fyddai'n cael eu darparu petaech yn cysylltu â phob un o'r cyflenwyr nwy a thrydan yn uniongyrchol.
Y fantais gydag UCAC yw eich bod yn cael yr holl wybodaeth am brisiau ynni domestig ar gyfer y DU i gyd mewn un man.
Mae gwasanaethau UCAC yn rhad ac am ddim i'r defnyddiwr, ac ni fydd UCAC byth yn gofyn am daliad gennych.
Ariennir ein gwasanaethau gan gomisiynau bychain a fydd yn cael eu talu gan y darparwyr ynni eu hunain, pan, a dim ond os byddwch yn ymrwymo i gontract cyflenwi gyda'r darparwyr drwy ein cwmni ni.
Mae'r prisiau a nodir gan UCAC yn cael eu diweddaru'n gyson, gyda llawer o'r darparwyr ynni â dolenni uniongyrchol eu hunain i'n cronfeydd data ac felly'n gallu cael eu newid o bryd i'w gilydd yn ôl disgresiwn y darparwyr ynni.
Mae'r prisiau a ddyfynnir yn seiliedig ar brisiau cyfredol (nwy, trydan a dau danwydd) sydd ar gael heddiw, fel mater o drefn nid ydynt yn cynnwys tariffau/prisiau hanesyddol.
Os oes unrhyw ddarparwr ynni'n cynnig cynigion di-arian (e.e. Milltiroedd Awyr, pwyntiau archfarchnad) rhestrir y rhain ar wahân, os ydynt ar gael, yn y sgriniau ymddangos ar y dudalen canlyniadau. Nid yw'r cynigion ychwanegol hyn yn cael eu cynnwys wrth gymharu prisiau.
Mae'r holl brisiau'n cynnwys TAW a godir ar y trydan neu'r nwy a gyflenwir i'ch cartref ar gyfradd o 5%.
